Ein Cwricwlwm / Our Curriculum
Yr Ysgol
Agorwyd drysau Ysgol Gyrmaeg Bro Teyrnon i ddisgyblion ym mis Medi 2011, trydedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg Casnewydd, i fodloni’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg wedi bod yn tyfu’n gyson dros y blynyddoedd diwethaf, ac nid oedd y ddwy ysgol cyfrwng Cymraeg yn gallu darparu ar gyfer holl blant meithrin a derbyn oedd yn chwilio am le mewn addysg cyfrwng Cymraeg . O ganlyniad, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi agor Y sgol Gymraeg Bro Teyrnon gan ddilyn ymgynghoriad ag ysgolion, rhieni, plant, a’r gymuned leol.
Mae’r ysgol wedi ei henwi ar ôl Teyrnon Twf Gwliant, cymeriad o’r Mabinogion, sef casgliad o straeon Cymraeg canoloesol. Teyrnon oedd arglwydd Gwent-yn-Coed yn stori Pwyll a Rhiannon.
Sefydlwyd Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon i gychwyn yn rhannu safle gydag Ysgol Gynradd Maindee. Agorwyd yr ysgol gyda 16 o blant mewn dosbarth cychwynnol ar gyfer disgyblion meithrin a derbyn. Mae’r ddwy ysgol wedi gweithio’n gytûn ar wahanol brosiectau, ac mae hyn yn parhau ar hyd y daith, gan gynnwys perfformaid ar y cyd o gân ddiolchgarwch Gymreig gan blant o ddosbarth derbyn Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon ac Ysgol Gynradd Maindee. Hyd yn hyn mae wedi bod yn daith sydd wedi ymgorffori ymhellach ethos hapus a diogel i’n holl blant. Fe fydd Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon yn symud i’w lleolliad parahol erbyn Medi 2013 – safle blaenorol Ysgol Gynradd Brynglas. Lleolir Canolfan Awtistiaeth ar y safle mewn adeilad ar wahan sydd o dan ofal Ysgol Maes Ebbw.
Mae wedi bod yn fraint i gael rhieni a ffrindiau cefnogol sydd wedi cofleidio’r ysgol newydd.
Datganiad Gweithredol
Creu amgylchfyd a naws a fydd yn hybu parch, gofal, cyfeillgarwch a chydweithio ystyrlon a theimladwy rhwng oedolion a disgyblion, ble y gall pob disgybl brofi sbectrwm eang o weithgareddau gwerthfawr a buddiol ac, yn sgil pob ymdrech, profi boddhad a llwyddiant.
Amcanion yr Ysgol
- Sicrhau bod pob disgybl yn gwbl fedrus mewn Llythrennedd a Rhifedd.
- Hyrwyddo a datblygu sgiliau yn cynnwys dwyieithrwydd – y Gymraeg a’r Saesneg gan hybu sgiliau deuol y ddwy iaith.
- Rhoi’r cyfle i bob disgybl ddatblygu i’w lawn botensial ymhob agwedd o’r cwricwlwm.
- Cynnig cyfle cyfartal i bob disgybl, waeth beth fo’i ryw, grefydd neu hil.
- Annog parch tuag at bobl eraill, i barchu eu heiddo eu hunain ac eiddo eraill.
- Pwysleisio pwysigrwydd ymddygiad da, cwrteisi ac ymarweddiad i bob disgybl bob amser.
- Annog pob plentyn i fod yn annibynnol, yn greadigol ac yn chwilfrydig drwy ddatblygu ei sgiliau meddwl, ei allu i brosesu gwybodaeth, ei allu i resymu ac i ymholi a gwerthuso.
- Hybu’r iaith Gymraeg yn y gymuned a chreu diwylliant er mwyn i’r disgyblion ddatblygu’n siaradwyr Cymraeg naturiol.
- Darparu amgylchedd ddysgu hapus, diogel sy’n llawn gofal ar gyfer y disgy
blion a’r staff.
The School
Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon, Newport’s third Welsh-medium primary school, opened its door to pupils in September 20 11 to meet the increasing demand for Welsh medium education.
Demand for Welsh-medium education has been growing steadily over recent years, and the two existing Welsh medium primary schools were unable to accommodate all nursery and reception children seeking a place in Welsh-medium education. As a result, Newport City Council opened Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon following a consultation with schools, parents, children, and the local community.
The school is named after Teyrnon Twf Gwliant (Teyrnon Great King, Roar of the Sea), a character from the Mabinogion, which is a collection of medieval Welsh stories.Teyrnon was lord of Gwent-is-Coed, and features in the story of Pwyll and Rhiannon.
Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon was established sharing a site with Maindee Primary School. The school opened with 16 children in a starter class for nursery and reception pupils. The two schools have work harmoniously on various projects, and this has continued on our journey, including a joint performance of a Welsh thanksgiving song by the children of Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon and the Maindee Primary School reception classes. It has been a journey that has further embedded a safe and happy ethos for all our children. Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon will move to it’s permament site by September 2012 – Brynglas Primary School’s previous site. An Autism centre is situated on the site, which is housed in a separate building, managed by Maes Ebbw School.
It has been a privilege to have such supportive parents and friends that have embraced the new school.
Manifesto
Create an environment for all where there is a caring and sensitive interaction between all adults and pupils, where a wide spectrum of rich experiences are offered to pupils and where all experience a sense of success and satisfaction.
School Aims
- To ensure that every pupil is completely Literate and Numerate.
- To develop children’s skills including bi-lingualism and fluency in both Welsh and English and promote dual skills in both languages.
- To give every pupil the opportunity to develop to his /her full potential in all aspects of the curriculum.
- To offer every pupil an equal opportunity, regardless of gender, religion or race.
- To encourage respect for other people, theirown property and the property of others.
- To instil in each pupil the importance of good behaviour, to show courtesy and pride in their own appearance.
- To encourage every child to be independent, creative and curious by developing their thinking skills: the ability to process information, reason, enquire and evaluate.
- To promote the Welsh language within the community and create a culture in order for the children to develop as natural Welsh speakers.
- To provide a safe, happy and caring environment for pupils and staff